Dysgu iaith

Y Tiwtiadur

Mae Y Tiwtiadur yn becyn cymorth ar-lein sy'n defnyddio data o gorpws CorCenCC . Mae'n cynnwys offeryn llenwi bylchau, a phroffiliwr geirfa sy'n codio geiriau mewn testun mewn lliw yn ôl eu bandiau amlder, offeryn adnabod geiriau er mwyn dyfalu gair mewn cyd-destun, ac offeryn creu tasg geiriau sy'n galluogi tiwtoriaid i guddio gair targed mewn llinellau concordans a gofynnir i ddysgwyr nodi beth sydd ar goll.

Geirfan

Mae Geirfan yn eiriadur ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Ysbrydolwyd Geirfan gan brosiect cydweithio i greu rhestr geiriau yn seiliedig ar ddata corpws, gan dîm yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol CaerdyddCorCenCC (Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes), y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a CBAC/WJEC. Ar hyn o bryd, dim ond 60 cofnod sydd yn y geiriadur achos mae'n mynd trwy gyfnod peilota. Bydd adborth gan ddefnyddwyr/profwyr yr adnodd yn helpu i wella'r geiriadur ac i gynllunio sut i greu cofnodion yn y dyfodol.

Cymraeg