Thesawrws
Nod y prosiect Thesawrws, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd datblygu thesawrws ar-lein o’r Gymraeg. Defnyddiwyd mewnblaniadau sy’n seiliedig yn rhannol ar waith CorCenCC er mwyn creu rhestr o gyfystyron sydd ar gael am ddim drwy adnodd ar-lein. Golygwyd tua 5000 gair cyffredin gan gynorthwywyr ymchwil. Dengys yr adnodd enghreifftiau o’r cyfystyron mewn brawddegau gan ddefnyddio CorCenCC.