
TestunRhydd
Mae TestunRhydd yn cefnogi dadansoddi a delweddu data testun rhydd yn y Gymraeg a’r Saesneg (e.e. data o arolygon, holiaduron, fforymau adborth). Mae TestunRhydd yn defnyddio rhai o’r gwasanaethau a’r methodolegau corpws o CorCenCC ac ACC (isod), ac yn eu hailbecynnu fel bod modd i gynulleidfaoedd a grwpiau o ddefnyddwyr newydd ddadansoddi eu data adborth eu hunain. Testun Rhydd mae ar gael i unrhyw un mewn unrhyw sector yng Nghymru a’r tu hwnt.
ACC: Crynhoi Testunau Cymraeg yn Awtomatig
Mae’r offeryn yma sydd ar gael yn rhad ac am ddim yn gadael i chi grynhoi dogfennau hir yn gyflym i’w cyflwyno’n effeithlon. Er enghraifft, bydd ACC yn galluogi athrawon i addasu dogfennau hir i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, neu aelodau’r cyhoedd i greu a darllen crynodeb o wybodaeth gymhleth ar y rhyngrwyd.
DS: bellach mae offeryn ACC wedi'i integreiddio ym mhecyn cymorth TestunRhydd y sonnir amdano uchod.


SENTimental
Mae SENTimental yn offeryn ar y we, sy’n syml a chyflym, ar gyfer casglu anodiadau gan gyfranogwyr a gwirfoddolwyr gwyddonwyr-dinesydd er mwyn creu data hyfforddi a phrofi i ieithoedd sydd â lefel isel o adnoddau. Yn wahanol i offer sy eisoes yn bodoli, mae SENTimental yn hwyluso neilltuo gwerthoedd eang i segmentau testun dros dagiau penodol am docynnau neu rychwantau. Mae’n wneud hyn er mwyn adeiladu setiau data ar gyfer hyfforddi a phrofi Modelau Iaith Mawr (LLMs).